Lleoliad:
Committee Room 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Tachwedd 2020
Amser:
14.40 -
16.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6503
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Mandy Jones AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Chris Buchan, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
1.4. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai e'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 7
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
· Chris Buchan, Pennaeth Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau, Llywodraeth Cymru
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu:
Gwybodaeth bellach gan Rwydwaith Amgylcheddol Sefydliadau'r Trydydd Sector ynghylch annog cymunedau i ddefnyddio gwasanaethau awyr agored;
Gwybodaeth bellach am y fenter Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Gohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws.
3.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws.
3.2 Gwybodaeth ychwanegol gan y Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith COVID-19
3.2.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith COVID-19
3.3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19
3.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19.
3.4 Gwybodaeth ychwanegol gan Helpforce Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19
3.4.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Helpforce Cymru a CGGC mewn perthynas ag effaith COVID-19
3.5 Ymateb i'r ymgynghoriad gan Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru mewn perthynas ag effaith COVID-19
3.5.a. Nododd y Pwyllgor ymateb i’r ymgynghoriad gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – trafod y dystiolaeth a gafwyd.
5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.